Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd.
Gwaith
Amdano

Ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd gyda M.Mus. mewn cyfansoddi, o dan gyfarwyddyd Alun Hoddinott CBE, treuliodd John gyfnod cynnar fel cerddor sesiwn a threfnydd ar gyfer Cwmni Anxious Records Dave Stewart yn Llundain. Ers hynny, mae John wedi gweithio fel cyfansoddwr llawrydd ar gyfer llwyfannau cyngerdd, theatr, a ffilm, tra’n dilyn ei ddiddordebau ei hun mewn gosodweithiau cerddorol, a chelfyddyd sain.
Projectau Dethol
2025: Water Wars: Dylunio sain a cherddoriaeth wreiddiol ar gyfer cynhyrchiad o ddrama Ian Rowlands sy’n treiddio i ddyfodol agos dystopaidd, lle mae prinder dŵr byd-eang yn tanio gwrthdaro gwleidyddol a brâd personol. Wrth i gymunedau gael eu rhwygo gan adnoddau sy'n prinhau, mae'r ddrama yn cwestiynu blaenoriaethau dynoliaeth, pris goroesi, ac effaith diraddio amgylcheddol ar wead cymdeithas. Cynhyrchiad Company of Sirens. Cyfarwyddwr: Chris Durnall.
2024-2025: Perthyn: Gosodwaith sy’n ymchwilio i’r Cymry alltud Eidalaidd yng Nghymoedd De Cymru, gan gynnwys hanes fy nheulu fy hun, a oedd yn wreiddiol o Frosinone, rhwng Rhufain a Napoli. Ffilm-sain a gwaith digidol. Ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru.
2024: Gŵyl Gelf RANEEN: Dathliad o artistiaid Omani a lleisiau rhyngwladol yn yr Ŵyl safle-benodol hon yn Muscat, Oman. Comisiwn i greu gwaith yn plethu sain aml-sianel cerddoriaeth mewn ymateb i ‘Amgueddfa’r Lleuad’ gan yr artist Luke Jerram. Cydweithrediad â cherddor Omani Amal Waqar, comisiwn gan Y Weinyddiaeth Diwylliant, Ieuenctid a Chwaraeon, Oman. Curadur: David Drake.
2024: The Fight: Sgôr wreiddiol ar gyfer drama lwyfan gan yr awdur Geinor Styles am y paffiwr du o Ferthyr, Cuthbert Taylor, a’i frwydr am gydnabyddiaeth yn y 1920au i’r 1940au. Cyfarwyddwr: Kev McCurdy. Theatr na nÓg.
2024: Turn Up The Sun: Sgor cerddorfaol wreiddiol ar gyfer ffilm nodwedd annibynol gan y cyfarwyddwr Jamie Adams. Good Pals Films.
2023-2024: Carchardai: Ymchwil a Datblygu ar gyfer prosiect sain a Rhith-Realiti gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau Cymru. Ymchwiliad i'r Gymraeg a hanes cosb yng Nghyrmu. Dangoswyd yn safle Y Bocs yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
2022-2023: Amleddau: gwaith amlgyfrwng celfyddyd-radio a ffilm, yn seiliedig ar archifau BBC Radio Cymru, a ddarlledwyd ym mis Chwefror, a'i ddangos yn Amgueddfa Cymru ym Mis Mehefin 2023. Comisiwn gan y BBC i ddathlu Canmlwyddiant y darllediad Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd ym 1923.
2021-2022: Gwaith Gosod HOSPES mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, rhan o brosiect Ysbyty Frenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol, a ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Celfyddydau , a Chronfa Loteri Iechyd a Llês.
2020-2021: Peal.Hum: Ymchwil a datblygiad tirwedd sain drwythol a phroject perfformio mewn cydweithrediad â’r offerynnwr taro, Y Fonesig Evelyn Glennie. Cyngor Celfyddydau Cymru.
2020: Beyond The Label: Creu tirweddau sain /ymatebion cerddorol i farddoniaeth a rhyddiaith wedi’i recordio gan bobl a chanddynt brofiad o fod wedi byw gyda chyflyrau iechyd meddwl. Breathe Creative & Tŷ Canna.
2020: Creu tirweddau sain gwreiddiol ar gyfer cyfres o gyfnodolion clywedol arsylwadol mewn cydweithrediad â’r awdur, Sarah Featherstone ar gyfer eu ffrydio ar-lein, mewn ymateb i’r argyfwng Coronafirws. Wedi’i hunan gyhoeddi a’i ffrydio fel rhan o ŵyl ar-lein ‘Digithon’, Wales Arts Review.
2020: 'The Matthew Purnell Show': Sgôr wreiddiol ar gyfer ffilm fer gyda chast o 31 o actorion a chanddynt anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Comisiynwyd gan gwmni theatr cynhwysol Hijinx. Cyfarwyddwyd gan Dan MacGowan.
2019: Atgyfodi sgriniwyd fel rhan o Wŷl y Dyn Gwyrdd.
2019: Y Tywysog a'r Bomiwr/The Prince and the Bomber - Sgôr wreiddiol ar gyfer rhaglen ddogfen, wedi’i gomisiynu gan y BBC/S4C. Cyfarwyddwr: Marc Evans.
2019: Y Brain/Kalgalar - Cerddoriaeth wreiddiol a dyluniad sain ar gyfer cynhyrchiad theatr yn seiliedig ar ysgrifau Meltem Arikan ar gyfer Be Aware Productions. Cynhyrchydd: Memet Ali Alabora.
2018-2019: PARADE: Gosodwaith amlddisgyblaethol a gwaith digidol a gomisiynwyd gan gynllun Canfod Maindee, Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter gymunedol Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymunedau Cyfoes (Ideas, People, Places)
2018-2019: My Grandfather, The Spy: Sgôr wreiddiol ar gyfer ffilm hir drama ddogfen. Shoot From The Hip Films. Cyfarwyddwyr: Dave Evans a Martin Scanlan.
2018: Darlleniadau Chapter: Dyluniad sain amgylchynol a cherddoriaeth ar gyfer darlleniadau Chapter, yn nodweddu awduron yn darllen eu gweithiau gwreiddiol. Cynllun Peilot Canolfan Gelfyddydol Chapter. Wedi’i gyfarwyddo gan Phillip MacKenzie.
2018: Atgyfodi - Creu gosodwaith ar raddfa fawr a darn perfformio aml-gyfryngol, mewn cydweithrediad ag archifau sain a ffotograffiaeth Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan, a Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru. Perfformiwyd mewn safle penodol yn yr Amgueddfa ym mis Hydref, 2018. Cafwyd grant cynhyrchu o Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad PRS, a Tŷ Cerdd.
2017: Concrète - Gosodwaith trwythol a gwaith perfformiad yn dathlu cyflwyno sŵn i gerddoriaeth gan Luigi Russolo a’r Dyfodolwyr. Cydweithrediad gyda Ffotogallery, fel rhan o Ŵyl Diffusion, 2017.
2016: 'The Phoenix In The Stone' : Cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer digwyddiad mapio tafluniad ar gyfer Leeds Light Night, comisiynwyd gan Rob & Matt Vale o Illuminos.
2015: Cyfarwyddwr Cerddorol a chyfansoddwr, Ar Waith, Ar Daith, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, a’r Cwmni theatr/cynhyrchu digwyddiadau, Walk The Plank.
2015: Cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer ffilm ddogfen a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA Fog Of Sex, sef archwiliad ar ffilm i weithwyr rhyw mewn addysg. Cyfarwyddwyd gan Chris Morris.
2014: Cerddoriaeth a dyluniad sain ar gyfer The Institute, ffilm berfformiad/theatr gorfforol gan y coreograffydd Sean Tuan John.
2014: Cylch o ganeuon Bore Oes : Cydweithrediad gyda’r Prifardd, Mererid Hopwood. Comisiynwyd gan Pontio, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf gan Elin Manahan Thomas a Jeffrey Howard. Comisiwn Dylan Thomas 100.
2014: Bedazzled - A Welshman In New York - Cyfansoddiad a dyluniad sain yn seiliedig ar recordiadau yn y maes ar gyfer gosodwaith & gwaith perfformiad. Cyd-ddyfeisiwyd gyda David Drake, Ben Gwalchmai, a Ffotogallery. Comisiwn Dylan Thomas 100.
2013: Maudie's Rooms - Cerddoriaeth a dyluniad sain wreiddiol ar gyfer gwaith theatrig safle-benodol yn adeilad Cyfnewidfa Caerdydd. Cyfarwyddwr: Louise Osborn.
2013: Crowds & Power: Theatr y Sherman - Cerddoriaeth a Dyluniad Sain wreiddiol. Cyfarwyddwr: Phillip MacKenzie.
2012-13: Grant ymchwil Gwobr Cymru Greadigol i ddatblygu’r gwaith amlddisgyblaethol, Atgyfodi. Cyngor Celfyddydau Cymru.
2012: 'Jerry The Troublesome Tyke’: Cyfansoddodd ac arweiniodd berfformiadau byw o weithiau cerddorfaol gwreiddiol ar gyfer y gyfres ffilm animeiddiedig hon o’r 1920au gan yr animeiddiwr o Gaerdydd, Sid Griffiths. Gŵyl Gelfyddydol Abertawe.
2012: Sgôr wreiddiol a dyluniad sain ar gyfer cynhyrchiad theatrig, 'To Live, To Love, To Be' - Theatr y Sherman. Cyfarwyddwr: Phillip MacKenzie.
2010: Arweiniodd berfformiad byw cyntaf John Cale yng Nghymru o’r albwm, Paris 1919. Comisynwyd y trac sain gan Ŵyl Ffilmiau Soundtrack. Perfformiwyd yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.
Cysylltu
Os byddwch yn anfon cwestiwn atom drwy’r ffurflen gyswllt, bydd angen i ni brosesu eich data er mwyn ymateb. Fodd bynnag, caiff ei ch data ei brosesu ar gyfer y pwrpas hwn yn unig, ac ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall. Am fwy o wybodaeth ewch at: Polisi Preifatrwydd