← ‘Nôl i’r dechrau

Jerry The Troublesome Tyke

Yn arwain yn fyw i'r lluniau i Ŵyl y Celfyddydau, Abertawe.

Yn arwain yn fyw i'r lluniau i Ŵyl y Celfyddydau, Abertawe.

Arwain yn fyw i lun fel rhan o Ŵyl Celfyddydau Abertawe.

Mae Jerry The Tyke yn seren tua 40 o ffilmiau a greodd Sid Griffiths gyda’r dyn camera Bert Bilby rhwng 1925 & 1927 (ar anterth y 'Ffilm Fud’) yng Nghaerdydd ac yn hwyrach, yn Llundain ar gyfer y 'Pathe Pictorials' a ymddangosai bob pythefnos.

I’r diweddar, Dave Berry, yr hanesydd ffilm Cymreig mae’r diolch bod y ffilmiau hyn ar gael i ni nawr. Darganfu’r ffilmiau hir golledig hyn yn archifau Pathe, a’u hachub ar gyfer y dyfodol. I ddathlu eu hail ddarganfyddiad, fe ges i fy nghomisiynu gan y BBC i sgrifennu sgôr ar gyfer 12 o’r ffilmiau mewn cydweithrediad â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Wrth ymchwilio i gerddoriaeth ffilmiau animeiddiedig ugeiniau’r ganrif ddiwethaf, sylwais ar ddylanwad Jazz, a’r gwaith byrfyfyr a wnaed wrth ddefnyddio sgôr byw, yn wahanol i gerddoriaeth mwy 'operatig' eu cymheiriaid 'byw'. Dewisais felly i ddefnyddio idiom gerddorol cerddorfa draddodiadol i awgrymu 'cerddorfa mewn pwll’, fel y cafwyd mewn sinema fud gynnar. Yna, fe wnes i ei drwytho gyda rhythmau ragtime a ffurfdroeon jazz, o dan arweiniad piano, ond gyda chlarinét fel prif lais cerddorol Jerry. Mae cymeriad ac ystwythder sionc yr offeryn yn gweddu i ddireidi Jerry ac yn adlewyrchu cerddoriaeth y cyfnod. Roedd agoriad Rhapsody In Blue, Gershwin yn gryf ar fy meddwl! 

Yn yr un modd ac y gwnaeth y cyfansoddwr Carl Stalling ddefnyddio 'thema' i gyflwyno’r cartwnau  'Loony Tunes' gan Warner Brothers, rwyf innau hefyd wedi cyflwyno 'Thema Jerry’. Bydd y thema'n ymddangos nawr ac yn y man i danlinellu ei bersonoliaeth a’i gymeriad.

Lawrlwytho Sgôr Honesty is the Best Policy

Honesty Is the Best Policy.

A Bird In The Hand.

Previous
Previous

Bedazzled - A Welshman In New York

Next
Next

Y Brain / Kargalar