Concrète
Ni chafodd chwyldro’r ugeinfed ganrif mewn sain a cherddoriaeth ei ddangos ar y teledu, ond yn hytrach cafodd ei roi ar dâp, ei samplo, ei drin, a’i ddyfeisio o’r newydd; gan osgoi hen draddodiadau wrth chwilio am sawl Iwtopia sonig gyfoes.
Dyfeisiwyd technolegau recordio/electronig newydd gan rai. Fe wnaeth rhai eraill ymateb i sŵn, gan greu a chwilota ffurfiau cyfoes o fynegiant, a rhannu aflonyddwch yn y chwyldro sŵn-cerddoriaeth parhaus hyn a ddechreuodd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac sy’n parhau i fod yn berthnasol.
Mewn ymateb i hyn, creodd John berfformiad sonig byw; yn wrogaeth ac yn deyrnged i Ddyfodolaeth, Adeileddiaeth Rwsiaidd, Bauhaus; a meddylwyr a chrewyr gwrthryfelgar fel Maurice Martenot, Léon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varèse, Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn....
Yn yr hen ffatri arfau rhyfel, yn Dumballs Road, Caerdydd, fe gymerodd y Cyfansoddwr John Rea a’r Dylunydd Sain, Simon Jones ran mewn perfformiad sonig am un tro yn unig. Fe wnaeth y perfformiad drin cipio sain a thechnoleg cynhyrchu sain y gorffennol a’r presennol. Wedi hynny, rhoddwyd gosodwaith trwythol a grëwyd gan John yn y gofod hwnnw am weddill yr Ŵyl.
Syntheseiddyddion modiwlaidd o'r perfformiad o 'Disco Concrète'.