Breakbeat
Gwaith gwreiddiol ar gyfer cerddorfa linynnol, trofyrddau ac oediad dybio (dub delay). Mae’r darn yn ymchwiliad i ble mae sŵn yn diweddu a lle mae cerddoriaeth yn dechrau; wedi ei ysbrydoli gan waith yr arloeswr Americanaidd, rebel a meddyliwr, John Cage. Hefyd, mae gwaith y trofyrddwyr arbrofol, a thechnegau samplo fel yr oedden nhw pan gafodd y gwaith ei greu yng nghanol y nawdegau.
Wrth greu’r gwaith, fe wnes i drin dolen o sŵn/sain hyd nes bod alaw a rhythm yn ymddangos. Yna, fe ddechreuais i hyn fel man cychwyn ar gyfer y broses gyfansoddol. Mae’r curiad toredig neu ‘breakbeat’ mewn ffurf dolen yn cyfeirio’n fwriadol at gerddoriaeth ddinesig y cyfnod, gydag ‘adroddwr’ wedi ei recordio yn darllen testun o lawlyfr trofwrdd Technics SL 1200, gyfochr a dyfyniadau gan John Cage ei hun. Yna, fe wasgais y ddolen ar asetad. DJ Jaffa sy'n ymateb i'r asetad ac fe wnaeth hyn alluogi gwaith byrfyfyr a siawns. Caiff y curiadau eu bwydo drwy oediad dybio yn y perfformiad, gan ychwanegu haenen arall o sŵn byrfyfyr i ymddangos yn y perfformiad.
Gwelaf fod y trofwrdd yn symbolaidd o’r dinesig, ac o arbrofi yn y sain, a bod y syniad wedi ei ffurfio a’i ysbrydoli gan y cerflun concrit 'Concrete Stereo' gan Ron Arad.