Clip o’r gwaith Atgyfodi, sy’n cynnwys cyfweliad gyda Tyrone O'Sullivan o bwll glo eiconig Tower. Ynddo mae’n siarad yn bersonol iawn ynglŷn ag adnabod dynion o dan y ddaear drwy sŵn eu lleisiau.

 Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon - y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r cof, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth. 

Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gof y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes a wnaed yn safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa. Ceir hefyd recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc. 

Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r project. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.

Wrth greu cyfansoddiadau mewn ymateb i hyn ac yn ffrâm gerddorol o’u cwmpas, mae’r caneuon gwreiddiol yn datblygu’n felodig a harmonig. Mae lle yma hefyd i gerddorion cyfoes sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol Cymreig i ail-ddehongli a byrfyfyrio. Wrth hynny, mae’r ‘cylch’ creadigol yn cael ei gwblhau gan gynnig ail-ddehongliad o hen draddodiadau.

Cyflwynir Atgyfodi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau ar y crwth, y pibgorn, y ffidil a’r chwiban gan Cass Meurig a Patrick Rimes, a lluniau a delweddau a ffilmiwyd yn arbennig gan Huw Talfryn Walters.

Hanes y Project:

Hydref 2018: Gosodwaith safle-benodol a pherfformiad yn Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan.

Tachwedd 2018: Darllediad ar BBC Radio Cymru, a BBC Sounds.

Mai -Mehefin, 2019: Ail-ddehonglwyd ar gyfer Gŵyl Diffusion Ffotogallery ar Olwg a Sain.

Awst 2019: Dangoswyd ar sgrin yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Chwefror 2020: Dangoswyd ar sgrin fel rhan o Ddangosiadau Sinema Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awst 2020: Dangoswyd fel rhan o Ŵyl ‘Amgen’ Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Tachwedd 2023: Ail-ddarllediad gan BBC Radio Cymru, a dangosiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Dathliad o 75 mlwyddiant yr Amgueddfa Werin, Sain Ffagan. 

“Mae pethau da yn cael eu creu ac yn digwydd yng Nghymru heddiw. Dyma un ohonyn nhw”
— - Beti George, BBC Radio Cymru
Previous
Previous

| təʊl | an R&D

Next
Next

PARADE