PARADE
“Canol Dinas yw lle mae’r holl hen gofadeiladau, ond nid, gan amlaf, lle mae bywydau pobl....y canol yw lle wyt ti.” Guido Guidi.
Lleisiau pobl Cymru yw ysbrydoliaeth fy ngwaith creadigol. Hoeliwyd fy sylw ar natur felodig a gwead ein tafodieithoedd Cymraeg ac Eingl-gymreig brodorol, a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu yn amlinelliad ein tirwedd, yn wledig a dinesig. Gellir gweld yr agwedd hon yn PARADE, sef comisiwn Canfod Maendy/ Finding Maindee ar gyfer Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter Creu Cymunedau Cyfoes, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth greu PARADE, cwrddais â phobl a recordiais eu storïau, wrth ochr y sinematograffydd a ffotograffydd, Huw Talfryn Walters. Cyflwynais y deunydd verite yma yn ffurf gosodwaith sain amgylchynol, ac ymyrraeth sonig. Wrth wneud hyn, cyflwynais y gwirioneddau a thirweddau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn, mewn cyfuniad â sain a delweddaeth haniaethol sy’n arwyddo a symboleiddio ystyr a synnwyr lle, a themâu hunaniaeth, perthyn, a Chenedligrwydd. Teimlais yn gryf y dylid cynnig llwyfan i’r bobl yma gael siarad.
Richard Kendall: Pyllau Maindee, Victoria Avenue.
Mehak Ali & William Charles: Ysgol Gynradd Maendy, Rodney Road.
Pauline & Angela: Corporation Road.
Muhammad Abid Chishti: Imam Mosg yr Al-Noor, Harrow Road.
Ali Sizer: Canolfan Gymunedol Cwrdaidd, Chepstow Road.