Bedazzled - A Welshman In New York
Ben Gwalchmai’n perfformio The Colour of Saying, gan gyfeirio at Bob Dylan. Recordiwyd darlleniad Phillip Levi yn The White Horse Tavern, Efrog Newydd.
Dathliad yw Bedazzled o berthynas arbennig Dylan Thomas â’r Unol Daleithiau, ac yn arbennig, Efrog Newydd; a dylanwad parhaus ei fywyd a’i waith ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n 'ail-ddelweddu’ ei hoff le i yfed, sef, The White Horse Tavern yn Greenwich Village, gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i ymuno â Dylan am ddiod. Yno, cânt eu trosglwyddo yn ôl i fywyd Bohemaidd a byrbwyll Efrog Newydd yn y pumdegau cynnar, lle wnaeth carisma a defnydd dramatig a thelynegol Thomas' o iaith gyfareddu pawb o’i amgylch.
Cafodd ei greu gan y cyfarwyddwr artistig, David Drake, yr awdur, Ben Gwalchmai a’r cyfansoddwr/ artist sain, John Rea. Noswaith o theatr drwythol, delwedd symudol a sain fydd yn cynnig cipolwg i gynulleidfaoedd o amgylch y byd o fywyd Dylan Thomas yn Efrog Newydd a’r cefndir diwylliannol o'i amgylch.
Dolen gyswllt i wefan y project: https://bedazzledinnewyork.org/
Anthony Harshing yn darllen ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’. Recordiwyd yn Greenwich Village, Efrog Newydd.
Dylan Thomas yn Greenwich Village, 2014.
Dylan Thomas yn cerdded ar lan yr Hudson.
Ffilmio The Colour Of Saying, gyda Ben Gwalchmai.
John & Felix Oteola.
John yn recordio Phillip Levi yn The White Horse Tavern, Efrog Newydd.