← ‘Nôl i’r dechrau

Bedazzled - A Welshman In New York

Ben Gwalchmai’n perfformio The Colour of Saying, gan gyfeirio at Bob Dylan. Recordiwyd darlleniad Phillip Levi yn The White Horse Tavern, Efrog Newydd.

Dathliad yw Bedazzled o berthynas arbennig Dylan Thomas â’r Unol Daleithiau, ac yn arbennig, Efrog Newydd; a dylanwad parhaus ei fywyd a’i waith ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n 'ail-ddelweddu’ ei hoff le i yfed, sef, The White Horse Tavern yn Greenwich Village, gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i ymuno â Dylan am ddiod. Yno, cânt eu trosglwyddo yn ôl i fywyd Bohemaidd a byrbwyll Efrog Newydd yn y pumdegau cynnar, lle wnaeth carisma a defnydd dramatig a thelynegol Thomas' o iaith gyfareddu pawb o’i amgylch.

Cafodd ei greu gan y cyfarwyddwr artistig, David Drake, yr awdur, Ben Gwalchmai a’r cyfansoddwr/ artist sain, John Rea. Noswaith o theatr drwythol, delwedd symudol a sain fydd yn cynnig cipolwg i gynulleidfaoedd o amgylch y byd o fywyd Dylan Thomas yn Efrog Newydd a’r cefndir diwylliannol o'i amgylch.

Dolen gyswllt i wefan y project: https://bedazzledinnewyork.org/

Anthony Harshing yn darllen ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’. Recordiwyd yn Greenwich Village, Efrog Newydd.

Previous
Previous

Ar Waith, Ar Daith

Next
Next

Jerry The Troublesome Tyke