← ‘Nôl i’r dechrau

The Coal Face

Mewn cydweithrediad â’r ffotograffydd Richard P Jones

Astudiaeth o ddiwydiant glo Cymru yw The Coal Face, a welir drwy wynebau’r gweithluAr un adeg roedd Cymru’n arwain y byd mewn cynhyrchu glo gyda dros 600 o lofeydd yn ne Cymru yn unig. Heddiw, mae’n holl hanes diweddar, heblaw am rhai olion, wedi cael ei ddifa. Mae llwch y glo wedi mynd. Cafodd y pyllau eu dinistrio. Rhed yr afonydd lliw licris yn glir ac mae’r cymoedd yn wyrdd. Wedi ei wasgaru ar hyd trefi’r cymoedd mae’r gweithlu yn byw yn y cysgodion; yn hŷn, yn ddoethach ac yn tyfu’n fwy eiddil. Wynebau’r dynion hyn yw’r allwedd i’n gorffennol diwydiannol. Eisteddodd glowyr o’r Rhondda, Rhymni, Taf ac Ebwy am y sesiynau angerddol yn y stiwdio a oedd eu hangen i greu’r portreadau 3-d llawn, sydd wedi eu cyfeilio gan dirwedd sain y cyfansoddwr John Rea ac yn cynnwys recordiadau Jones o leisiau’r glowyr a synau’r rhanbarth.

 Portreadau o gyn lowyr Cymreig | Celf a dylunio | The Guardian

Previous
Previous

Concrète

Next
Next

Ar Waith, Ar Daith