← ‘Nôl i’r dechrau

| təʊl | an R&D

Mae clustffonau yn hanfodol i glywed yr elfennau ymrochol.

Yn ystod y cyfnod cloi ym 2020/21 'rydw I wedi bod yn datblygu syniadau ar gyfer gwaith newydd, mewn cydweithrediad a'r cerddor Y Fonesig Evelyn Glennie. Mae'r syniad wedi ei ysbrydoli, yn rhannol, gan mytholeg clychau sudd yn ein diwylliant megis Cantre'r Gwaelod, a Llys Helig; a'r cysylltiad nes i weld yn ein hanes gyfoes. Yn benodol y gloch a achubwyd o Egwlys Nantgwyllt yng Nghwm Elan, a foddwyd I greu'r gronfa ddwr Caban-Coch. Mae swn y gloch hon yn ffurfio rhan bwysig o byd sain y gwaith. Y bwriad yw i greu profiad/perfformiad ymdrochol.

 

Yn bosibl trwy Grant Sefydlogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Roeddwn eisiau son hefyd gymaint nes i fwynhau’r perfformiad R&D, fe gymerodd fi’n ol i Yr Atgyfodiad yn Sain Ffagan, hudolus a hypnotaidd iawn. Mae swn cloch yn taro’n ddwfn a’n reiddiol a rhywbeth am weld golau yn dawnsio ar ddwr i’r sain gael ei ganfas.”
— Branwen Dickson, Cyngor y Celfyddydau
Previous
Previous

HOSPES

Next
Next

Atgyfodi