Gosodwaith sain a ffilm.

Lladin

Enw

Hospes m ‎(genidol hospitis); ffurfdroad trydydd person

1. gwestai

2. gwestai, ymwelydd

Mae HOSPES yn osodiad ymgolli, safle-benodol a phorth ar-lein, sy'n gosod Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol. Rwyf wedi treulio’r un mis ar ddeg diwethaf, o Hydref 2021, yn ymestyn allan i’r strydoedd cyfagos, yn recordio sgyrsiau, seinweddau haniaethol, a chipio delweddau mewn ymgais i ddiffinio, neu o leiaf chwilio am ymdeimlad o beth allai ‘Cymreictod trefol’ fod heddiw.

Fel Maendy ( a weler yn PARADE), gellir olrhain Hanes Tredegarville, Sblot, ac Adamsdown yn ei bensaernïaeth: yn benodol yn y newid yn ei ddefnydd a'i swyddogaeth, boed yn segur, neu'n cael ei ddymchwel yn gyfan gwbl a'i ddisodli â'r newydd. Ond os edrychwn yn fanylach ar y trawsnewidiad hwn, daw darlun i'r amlwg o newid yn y boblogaeth, a'r cymunedau sy'n byw, ac sydd wedi byw yma. Mae hyn yn arbennig o wir am y Clafdy, a'i ymgnawdoliadau blaenorol fel Fferyllfa yn y rhan hon o'r Ddinas. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli hanes dau gan mlynedd, a tharddiad Caerdydd fel Dinas, a gafodd ei llunio yn y Chwyldro Diwydiannol ac yn dechrau gyda chyfarfod dan gadeiryddiaeth yr Ail Ardalydd Bute yn Neuadd y Dref, Caerdydd, yn 1822. Felly, mae'r cyferbyniad hynod ddiddorol hwn o barhad a byrhoedledd, yn 'awyrgylch caled' yr adeiladau eu hunain a'u gweddnewidiad o ran defnydd, hefyd yn 'awyrgylchoedd meddal' sy'n esblygu'n barhaus o ieithoedd, tafodieithoedd a bydoedd sain gwasgaredig.

Ai diffiniad y ‘gwesteiwr’ yw Caerdydd ac mai gwesteion ydym sy’n teithio drwyddi? Wedi'r cyfan, mae unigrywiaeth Caerdydd wedi'i wreiddio mewn hanes hir o amrywiaeth. Ydy’r Clafdy yn cynrychioli hanes gofal yn ein Dinas, ac ydy hwn yn drosiad i'r rhai sy'n cofleidio lles ein Cymry trefol?

Mae’r iteriad digidol ar-lein HOSPES yn gyfle i gwrdd â’r unigolion sy’n byw yn y cymunedau hyn, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig cefnogaeth a chymorth, hefyd y rhai sydd wedi’u gwreiddio yn yr ymdeimlad hwn o le, neu sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar. Mae elfennau 'cartograffeg sonig' y gwaith yn cael eu cyfuno â delweddau a ffilm haniaethol, a ysbrydolwyd yn rhannol gan raglenni dogfen, a thraddodiad ffilm 'City Symphony' y 1920au, wedi'i ddiweddaru i gyfleu ymdeimlad o'n Dinas gan mlynedd yn ddiweddarach, yn y 2020au.

Rwy’n gweld y casgliad hwn o 'bortreadau sonig' fel 'heneb ddigidol' wedi'i neilltuo ar gyfer cymuned, yn hytrach na dathlu unigolyn, gyda'r holl nodweddion cymhleth a ddaw yn sgil hyn.

www.hospescardiff.com

Previous
Previous

AMLEDDAU

Next
Next

| təʊl | an R&D