← ‘Nôl i’r dechrau

Ar Waith, Ar Daith

Perfformiad byw o dirwedd sain ‘Storywall Inscription’, yn cynnwys cerddi a ysgrifennwyd yn arbennig gan blant ysgol o Harlech a Chasnewydd ac a gyfansoddwyd i ddathlu Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Taith drwy fytholeg hudol Cymru oedd Ar Waith Ar Daith a’r perfformiad olaf oedd y cynhyrchiad awyr agored mwyaf a lwyfannwyd yng Nghymru erioed. Cymerodd dros 600 o bobl ran ynddi. Cafwyd coreograffi symudiad torfol, pypedwaith, gorymdaith lusern, gorymdaith o rwyfwyr o 25 clwb rhwyfo môr Cymru, cyfansoddiad cerddoriaeth newydd gan yr enillydd gwobr BAFTA, y cyfansoddwr John Rea, côr plant, perfformiadau yn yr awyr, darluniau tân, tân gwyllt a phair symudol yn ganolbwynt i’r cyfan. Yr actores Gymraeg Shân Cothi berfformiodd y brif ran, Ceridwen.

Darlledwyd y darn yn fyw ar S4C ac fe gafodd ei weld gan gynulleidfa awyr agored o 12,000. Roedd Ar Waith Ar Daith yn berfformiad epig heb ei ail. Ac eto, yr hyn oedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ei weledigaeth sylfaenol, oedd ei nod i fod yn fwy na darn o gelf awyr agored dros dro, yn unig. Drwy ei raglenni dysgu ac ymgysylltiad ei artistiaid drwy gyfrwng taith bws ddigidol Awen, cafodd ei gynllunio i adael gwaddol fydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymarferwyr celfyddydau awyr agored yn y dyfodol.

Cymysgedd o gerddorfa draddodiadol, côr soprano operatig, gitarau, cerddorion traddodiadol Cymreig a sain electronig amgylchynol sy’n ffurfio dyluniad y sain a’r sgôr gerddorol. Defnyddir hyn i adrodd stori genedigaeth Taliesin o’r Mabinogi. 

Disgrifiwyd Ar Daith Ar Waith gan Ken Skates, Gweinidog Cymru dros Ddiwylliant, fel y digwyddiad awyr agored gorau a welodd ef erioed yng Nghymru.

John yn recordio ei sgôr gyda Sinfonia Cymru yn Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Previous
Previous

The Coal Face

Next
Next

Bedazzled - A Welshman In New York