← Back to home

AMLEDDAU/FREQUENCIES

Yn ein harchifau sain yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.

Trwy ail-gymysgu archifau Radio Cymru, dw i wedi creu darn amlgyfrwng newydd i ddathlu Canmwlyddiant y darllediad cyntaf yn yr iaith Gymraeg, yng Nghaerdydd ar Chwefror y 13fed, 1923. Mae'r gwaith yn wead o leisiau hen a newydd, wedi eu plethu hefo recordiadau sain, a sgor cerddorol wreiddiol: cyfuniad o'r hanesyddol, a'r newydd.

Mae Amleddau yn cyflwyno lleisiau a recordiadau o archifau Radio Cymru trwy gyfrwng darn sain trwythol, yn cyfuno sain amgylchynol, a delweddau. Wrth blethu rhain gyda chyfansoddiad cerddorol gyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes, a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd, ac yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru gyfoes.

Mi nes i ail-ymweld a ffyrdd o weithio y ddefnyddiais I wrth creu'r gwatih 'Atgyfodi', a ddarlledwyd ar sioe Huw Stephens, a BBC Sounds ym 2019, a wedi ei seilio ar archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Dylanwad arall ar y gwaith yw y traddodiad ffilm 'Symffoniau'r Ddinas', neu 'City Symphonies' o'r 1920's, fel yr enwog Berlin: Symphony of a City. Mae'r genre yma yn gyfuniad o ddelweddau a cherddoriaeth, yn cyfleu naws y ddinas, ac ysbryd 'lle'. Gan bod Caerdydd mor bwysig yn yr hanes cynnar darlledu yng Nghymru, gwelais y siawns o gynnal y dangosiad cyntaf yn ein Prifddinas; yn Theatr y Reardon Smith, yn Yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae'r sain a delweddau archif a newydd yn adfywio'r syniad o beth yw Cymreictod dinesig gyfoes, ynghyd a'r lleisau o led-led Cymru, yn cynnwys melodiau ein tafodiaethau amrwyiol. Mae yma hefyd cyfweliadau newydd yn cyfuno hefo lleisiau'r archif, yn creu deialog rhwng ein Dinas fel y mae nawr, a dros y Blynyddoedd. Mae archifau Radio Cymru yn bwysig iawn, ac yn adlewyrchiad a dylanwadad mawr ar sut yr ydym yn gweld ein hunain fel Cymry.

Mae Amleddau hefyd yn taflu golau ar gyfoeth ein traddodiad darlledu yng Nghymru: 'collage' o ganeuon a straeon, sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn yw hwn; hefo gweadau a seiniau’r bywydau yma yn dylanwadu ar arddull y naratif cerddorol. Wrth galon y cyfan bydd archifau pwysig ein cenedl a lleisiau y bobl wnaeth ymladd, ac arloesi i ni cael ein llais ar yr amleddau.

Erthygl Wales Arts Review

Erthygl BBC Cymru Fyw 

Dydw i ddim yn siaradwr Cymraeg ond mae’r ddelweddaeth, y seinwedd a’r golygu yn creu profiad hardd dros ben.
— Ben Coleman, Gwyl Green Man
Mae’r cyfanwaith yn anhygoel, y gerddoriaeth yn bwerus a theimladwy dros ben, a Shan Cothi yn wych. Hefyd y dewis golygyddol o’r clipiau sain yn addas i’r cyfnodau a’r negeseuon ynddynt yn addysgiadol ac yn atgoffa ni o beth ddigwyddodd ar gwahanol gyfnodau yn ystod y 100 mlwyddiant.
— Rhodri John, S4C
Previous
Previous

CARCHARDAI

Next
Next

HOSPES